Yn gyntaf, mae'n werth cofio mai @LlywodraethCymru ydi’r unig ddarn o’r Blaid Lafur sydd wedi meddwl o ddifrif am ddyfodol y DG. Dyma’r ddogfen allweddol (eto, gwerth ei ddarllen)

2.

https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2019-10/diwygio-ein-hundeb-cydlywodraethu-yn-y-du.pdf
Roedd Maniffesto Llafur yn 2019 yn gam mawr yn ôl o safbwynt dyheuadau cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru o’i gymharu â manifesto 2017 e.e. dilewyd yr ymrwymiad blaenorol i ddatganoli gyfiawnder yn sgil cefnogaeth ASau (San Steffan) Llafur i'r status quo.

Ond...

3
O leiaf yr oedd ymrwymiad penodol yn Maniffesto 2019 y byddai Confesiwn Cyfansoddiadol bondigrybwyll y Blaid Lafur yn ystyried syniadau Llywodraeth Cymru yn y ddogfen uchod.

Blwyddyn yn ddiweddarach, fodd bynnag, a does dim sôn am hynny.

4
Pam tybed? Wel, rhan o’r rheswm mae’n siwr genna'i yw mai sioe Gordon Brown ydi hwn, a gwelwyd yn 2017 (adeg lansio menter tebyg *iawn* i’r hyn gyhoeddwyd heddiw mewn cyfarfod yng Nghaerdydd) fod o’n mynnu ei ffordd ei hun.

Y fo ydi'r Gwaredwr Mawr...!

5.
Ond efallai fod sylwedd yn faen trawgwydd hefyd?

Mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymedig i’r egwyddor fod yr Undeb yn wirfoddol a bod modd gadael. Ond yn gynyddol, mae Unoliaethwyr Albanaidd yn chwilio am ffyrdd i wneud hynny'n ymarferol amhosibl e.e.
http://scottish.fabians.org.uk/a-new-act-of-the-union/

6
Pwy sy’n fodlon betio y bydd confensiwn Starmer/Brown yn mynnu pob math o reolau arbennig i sicrhau fod angen mwy na mwyafrif syml o etholwyr yr Alban yn pleidleisio o blaid annibyniaeth mewn ail refferendwm?

7
A wedyn mae mater ariannu.

Gwyddom fod mwyafrif llethol yn Lloegr yn credu fod lefelau gwariant cyhoeddus yn anheg o uchel yn yr Alban. Cred Llywodraeth Cymru fod yn hwyr glas dileu Barnett a chael fformiwla yn seiliedig ar *angen* yn ei le. Yr Alban fyddai'n colli o hyn

8
Eto'i gyd, doedd gan Starmer *ddim* i’w ddweud am ariannu heddiw.

Os mai Brown sy’n rhedeg y sioe, mae hanes yn awgrymu y bydd yn gyndyn iawn, iawn o ganiatau i unrhyw un wneud cynigion yn y maes yma y mae’n eu hystyried yn gableddus...

9
Llawer mwy y gelir ei ddweud ond dau sylw i gloi

UN O ystyried mai dyma ei araith fawr gyntaf ar ddatganoli a dyfodol y DG, mae’n drawiadol pa mor hawdd yr oedd hi i Starmer anwybyddu nid yn ynig syniadau ond hyd yn oed *fodolaeth* Llywodraeth Cymru!

10
DAU Tra gall Brown gael ei ffordd hefo Starmer, yn y pendraw pobl Lloegr fydd yn penderfynu siap y DG. Fydd dim gobaith i gynlluniau Llafur oni bai eu bod yn mynd â graen y farn gyhoeddus yno. A bydd gennyf *lawer* mwy i ddweud am hynny (efo @ailsa_henderson) yn fuan yn 2021

FIN
You can follow @RWynJones.
Tip: mention @twtextapp on a Twitter thread with the keyword “unroll” to get a link to it.

Latest Threads Unrolled:

By continuing to use the site, you are consenting to the use of cookies as explained in our Cookie Policy to improve your experience.