Abaty Tyndyrn oedd y fynachlog Sistersaidd 1af yng Nghymru, sefydlwyd gan Walter fitzRichard o Clare 1131. Y preswylwyr cyntaf oedd grŵp o fynaich a ddaeth o'r fam-fynachlog l'Aumone, ac dechreuwyd adeiladu'r eglwys Gothig yn 1269. Fe'i cysegrwyd ym 1301. #AddoldaiDyddGwener 1/6
Trwy'r 14eg a'r 15fed ganrif, roedd ffawd yr abaty yn brwydro oherwydd y Marwolaeth Ddu a gwrthryfel Glyndwr. Ildiwyd yr abaty yn dilyn y Ddeddf Ataliad Gyntaf yn 1536 pan fynnodd y Harri'r VIII ddiddymu'r mynachlogydd. 2/6
Tynnwyd y plwm gwerthfawr oddi ar doeau'r adeiladau gan achosi iddynt ddadfeilio'n gyflym wedyn. Dros y ddwy ganrif nesaf roedd y safle'n gartref i fythynnod a gweithdai trigolion lleol tlawd a gweithwyr o'r gwaith cynhyrchu gwifrau cyfagos. 3/6
Erbyn diwedd y 18 ganrif, roedd Twristiaeth Rhamantus safleoedd canoloesol Cymru yn ffasiynol. Wnaeth Dug Beaufort, perchen Tyndyrn, glirio'r tir o amgylch y fynachlog i'w gwneud yn fwy hygyrch i dwristiaid, ond gadawodd y eiddew trwchus a orchuddiai'r eglwys heb ei gyffwrdd. 4/6
Yn fuan fe wnaeth barddoniaeth ramantaidd a thirluniau droi Abaty Tyndyrn yn enghraifft berffaith o adfeilion canoloesol mewn tirwedd hardd. Heidiodd twristiaid o Ffrainc a'r Almaen i brofi awyrgylch y safle. 5/6